Gyda ffocws ar lesiant staff mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesiant yn rhad ac am ddim i ysgolion ledled Cymru. Gellir teilwra cefnogaeth i anghenion yr ysgol gan ddefnyddio dulliau arfer gorau sy'n hyrwyddo dull ysgol gyfan tuag at lesiant.
Gall ein Cynghorydd Llesiant weithio gyda chi a'ch ysgol trwy ddarparu cefnogaeth a chyngor ar bolisïau ac arferion sy'n effeithio ar lesiant staff. Gallai hyn gynnwys rhannu adnoddau ar sail tystiolaeth, cyngor ar bolisïau a strategaeth, a gweithdai llesiant ar bynciau sy'n cefnogi staff addysgu ac arweinwyr ysgolion.
Mae'r gwaith hwn yn gyfrinachol ac yn ddienw oni bai y rhoddir caniatâd yn benodol i rannu gwybodaeth, er enghraifft trwy astudiaethau achos arfer da.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn gefnogi polisi ac arferion llesiant yn eich ysgol, cysylltwch â'n Cynghorydd Llesiant, Anthony Priest ar anthony.priest@edsupport.org.uk.