Beth sydd ar eich plât? Sgyrsiau myfyriol ar gyfer staff addysg

Gall sgyrsiau myfyriol fod yn offeryn grymus i gefnogi ein hiechyd meddwl a llesiant. Mae’r modiwl e-ddysgu am ddim hwn yn cynnig ystod o dechnegau i gefnogi arfer myfyriol personol a rhwng cyfoedion.

8%

roedd gan o weithwyr addysg proffesiynol fynediad at ofod diogel i drafod problemau. (Mynegai Llesiant Athrawon 2020)

Trwy ein gwaith gyda staff ac arweinwyr ysgol, mae Education Support a Talking Heads wedi dysgu pa mor bwerus yw sgyrsiau myfyriol. Maen nhw’n cefnogi unigolion i gynnal eu llesiant eu hunain, er mwyn atal symptomau gorweithio ac i ailgysylltu â’u diben craidd o gefnogi plant a phobl ifanc. Mae myfyrio rheolaidd yn elfen allweddol o arfer proffesiynol da ar gyfer pawb sy’n gweithio mewn ysgolion. 

Bydd y cwrs hwn yn rhoi ffordd syml o archwilio sut y gall myfyrio weithio i chi, a gellir ei ddefnyddio am ddim diolch i haelioni Llywodraeth Cymru. 

Nid bwriad yr e-ddysgu hwn yw disodli nac ail-greu dyfnder y broses a ddarperir gan oruchwyliaeth berthynol neu glinigol, hyfforddiant neu ddysgu gweithredol ffurfiol. Yn lle hynny, mae’n ymateb i’r angen a adnabuwyd gan lawer o addysgwyr i fyfyrio ar eu gwaith a’i effaith ar eu llesiant yn ddiogel, heb ofn na beirniadaeth.

Fel partneriaid mewn sgwrs fyfyriol, rydych chi’n cymryd rhan wrth rannu ‘trysor’