Stori Kathy: goruchwyliaeth broffesiynol yng Nghymru
Cymerodd Kathy, arweinydd ysgol yng Nghymru, ran mewn chwe sesiwn goruchwylio proffesiynol, a gynigiwyd fel rhan o'n Gwasanaeth Llesiant Staff, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, heb unrhyw gost i staff.
Your stories / 2 mins read

Mae Kathy yn siarad am effaith goruchwyliaeth broffesiynol ar ei bywyd personol a phroffesiynol:
Roedd yr hwylusydd yn berffaith ar gyfer fy sesiynau goruchwylio proffesiynol fel rhan o Wasanaeth Llesiant Staff yng Nghymru.
O'r sesiwn gyntaf, fe wnaeth hi fy 'nghael' i a chyda'n gilydd fe wnaethon ni archwilio fy llesiant mewn ffordd gyfannol. Roedd y sesiynau gymaint yn fwy buddiol nag yr oeddwn wedi'u rhagweld; daeth y nifer o edafedd rhydd at ei gilydd dros yr wythnosau i roi amseroedd i mi fyfyrio, cael mewnwelediadau a chyfleoedd i ddatblygu llwybrau niwrolegol mwy defnyddiol.
“Galluogodd y sesiynau hyn fi i ddod o hyd i lawenydd yn fy rôl addysgol ac mewn bywyd y tu hwnt i waith”.
Galluogodd y sesiynau hyn fi i ddod o hyd i lawenydd yn fy rôl addysgol ac mewn bywyd y tu hwnt i waith. Lleihaodd fy straen trwy gael fy helpu i osod ffiniau cliriach a chael mwy o eglurder. Fe wnaethon nhw hefyd fy ngalluogi i ddathlu fy sgiliau a'm galluoedd a meithrin agwedd bositif tuag at yr hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig.
Gweithiodd yr arweiniad ysgafn a gefais gan Sally, yr hwylusydd, ynghyd â'i set sgiliau aruthrol, yn berffaith i mi; fe greodd hi hyd yn oed rai ymarferion penodol i mi.
Rwy'n ddiolchgar iawn am dderbyniad ac empathi Sally a ganiataodd i mi asesu fy sefyllfa, cael persbectif a chael fy ngrymuso ynghylch fy newisiadau a'm penderfyniadau. Ni allwn argymell Sally ddigon fel goruchwyliwr, a'r oruchwyliaeth broffesiynol a gynigir fel rhan o'r Gwasanaeth Llesiant Staff yng Nghymru.
Cofrestrwch nawr
Gall arweinwyr ysgolion a rheolwyr llinell yng Nghymru gofrestru i dderbyn chwe sesiwn goruchwylio proffesiynol un-i-un wedi'u hariannu drwy Zoom neu dros y ffôn, sy'n hollol gyfrinachol.
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly cofrestrwch nawr!
