7 ffordd o deimlo'n dda y flwyddyn ysgol hon
Osgowch gael eich llethu gan flinder gyda'r saith strategaeth hyn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd ar gael yn rhwydd i athrawon a staff addysg.
Articles / 2 mins read
Osgowch gael eich llethu gan flinder gyda'r saith strategaeth hyn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd ar gael yn rhwydd i athrawon a staff addysg.
Mae Emily ac Amelia Nagoski yn dadlau, er mwyn osgoi cael eich gorlethu, bod angen i ni ddysgu cwblhau cylch straen y corff. Mae'r cylch straen yn dechrau pan fyddwn yn canfod bygythiad. Mae rhywbeth yn digwydd – archwiliad Estyn efallai? – ac mae'r corff yn anfon hormonau straen allan.
Ond, mae'n werth cofio nad yw eich cyrff wedi'u cynllunio i ymdopi â phresenoldeb cyson neu hirdymor hormonau straen. Mae'r hormonau hyn yn negeswyr sydd â’r nod o fod yn bresennol yn y corff am gyfnodau byr. Gall eu presenoldeb hirdymor neu gronig gael canlyniadau iechyd sylweddol.
Felly mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddweud wrth y corff nad ydym dan fygythiad mwyach, ac y gall roi'r gorau i gynhyrchu hormonau straen. Eu henw ar hyn yw 'cwblhau'r cylch straen'.
Dyma saith ffordd o wneud hyn, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac sydd ar gael yn rhwydd:
1.Symud: Rhedeg, nofio, dawnsio (beth bynnag rydych chi'n ei fwynhau – NID hyfforddi ar gyfer y Gemau Olympaidd yw'r nod!). Mae'r teulu Nagoski yn nodi mai symudiad yw 'eich llinell ymosod gyntaf yn y frwydr yn erbyn cael eich gorlethu’. Mae 20-30 munud y dydd yn ddelfrydol, ond mae unrhyw beth yn well na dim byd!
2.Rhyngweithio Cymdeithasol: Gall siarad â chydweithwyr helpu i wella ein hwyliau a’n sicrhau bod y byd yn lle diogel i fyw ynddo. Mae chwerthin gyda'ch gilydd—a hyd yn oed dim ond hel atgofion am yr adegau rydych chi wedi chwerthin gyda'ch gilydd—yn cynyddu boddhad mewn perthynas.
3.Cysylltu ag eraill: Dangoswyd bod cwtsh o ugain eiliad gyda rhywun annwyl i chi yn gostwng lefelau straen cymaint ag ymarfer corff. Ac nid oes rhaid iddo fod yn hoffter corfforol – gall siarad â rhywun rydych chi'n rhannu cysylltiad arbennig ag ef wneud gwahaniaeth enfawr i sut rydych chi'n teimlo.
4.Breathe: Gall anadliadau dwfn, araf helpu i reoleiddio'r ymateb i straen. I wneud ymarfer syml, ymarferol gallech chi roi cynnig ar hyn:
- anadlwch i mewn i gyfrif araf o bump
- daliwch yr anadl honno am bump
- anadlwch allan am gyfrif araf o ddeg
- oedwch am gyfrif arall o bump
5.Cwsg: Gall fod yn anodd cysgu pan rydyn ni'n teimlo dan straen. Ond gall cael noson lawn, ddi-dor o gwsg lle bynnag y bo modd fod yn arf gwych yn y frwydr yn erbyn straen.
6.Crïo Does dim cywilydd mewn crïo! Efallai na fydd crïo yn newid y sefyllfa a achosodd y straen, ond mae caniatáu i chi'ch hun grïo ar ôl digwyddiad llawn straen yn helpu trwy ryddhau hormonau teimlo'n dda. Gall eich helpu i leddfu anawsterau corfforol yn ogystal ag anawsterau emosiynol.
7.Byddwch yn greadigol: Dangoswyd bod cymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol rydych chi'n ei fwynhau heddiw – boed yn gerddoriaeth, celf neu chwaraeon – yn arwain at fwy o egni, cyffro a brwdfrydedd yfory.
I ddysgu mwy am gwblhau eich cylch straen darllenwch 'Burnout: the secret to completing the stress cycle' gan Emily ac Amelia Nagoski.
Gofynnwch i chi'ch hun: Ydy hin bosib i mi wneud y strategaethau uchod unrhyw bryd? Ydw i'n gofyn i mi fy hun yn rheolaidd a oes eu hangen arnaf? Ydw i'n blaenoriaethu gwneud amser iddyn nhw?
Download our poster
Don’t wait for a crisis to call.
We’ll offer you immediate, emotional support.
08000 562 561
Sign up to our newsletter for the latest mental heath and wellbeing resources, news and events straight to your inbox.