Cydnabod colled a phrofedigaeth mewn lleoliadau addysg
Bwriad yr awgrymiadau hyn ar gyfer staff addysg yw helpu staff i ddeall effeithiau colled a phrofedigaeth arnyn nhw eu hunain ac ar gydweithwyr, a galluogi staff i gefnogi ei gilydd trwy golled a phrofedigaeth a, thrwy wneud hynny, feithrin gwydnwch gyda'i gilydd.
Guides / 20 mins read

Bwriad yr awgrymiadau hyn ar gyfer staff addysg yw helpu staff i ddeall effeithiau colled a phrofedigaeth arnyn nhw eu hunain ac ar gydweithwyr, a galluogi staff i gefnogi ei gilydd trwy golled a phrofedigaeth a, thrwy wneud hynny, feithrin gwydnwch gyda'i gilydd.
Wedi'i greu mewn partneriaeth â MindEd
Bwriad y gyfres hon o awgrymiadau gan ein panel rhyngwladol o arbenigwyr, ac wedi'u haddasu ar gyfer staff addysg, yw helpu staff i:
- ddeall effeithiau colled a phrofedigaeth arnyn nhw eu hunain ac ar gydweithwyr
- defnyddio’r ddealltwriaeth hon i ymateb gydag amynedd a thrugaredd
- gwybod bod colled a galar yn brofiadau y mae pawb yn eu teimlo
- cefnogi eu lleoliad addysg fel lle y gall staff gefnogi ei gilydd trwy golled a phrofedigaeth, a thrwy wneud hynny feithrin gwydnwch gyda'i gilydd
Mae dwy brif adran; 'pethau i'w gwneud' a 'pethau i'w gwybod'. Defnyddiwch yr adnodd hwn fel y mae’n gweithio i chi. Mae'r prif awgrymiadau’n rhoi cyngor mynediad cyflym, mae'r cwymplenni o dan bob awgrym yn rhoi mwy o fanylion.
Mae colled a galar yn normal ond gallant fod yn ddigwyddiadau anodd iawn mewn bywyd. Nid oes llyfr rheolau ar gyfer wynebu colled neu reoli marwolaeth rhywun sy'n agos atoch chi. Mae galar yn bersonol ac mae'n rhaid i bob person ddod o hyd i'w ffordd ei hun o wneud synnwyr o golled a marwolaeth. Fodd bynnag, gall y ffordd y mae pobl eraill yn ein cefnogi ni pan fyddwn mewn galar wneud gwahaniaeth go iawn i’r ffordd yr ydym yn ymdopi.
Yn ein lleoliadau addysg gall profedigaeth effeithio ar sawl agwedd ar fywyd ysgol gan gynnwys:
- Profedigaeth disgybl neu fyfyriwr o ganlyniad i golli aelod o'r teulu, ffrind neu athro
- Staff yn colli aelod o'r teulu/ffrind/cydweithiwr, neu'n dilyn colledion mawr eraill fel camesgoriad beichiogrwydd
- Marwolaeth disgybl neu fyfyriwr yng nghymuned yr ysgol
- Marwolaeth aelod o staff o fewn cymuned eich ysgol
- I rai aelodau o staff a disgyblion, mae colli anifail anwes annwyl hefyd yn brofedigaeth sylweddol
Profedigaeth
Mewn ysgol, gall marwolaeth unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r ysgol effeithio ar y gymuned gyfan. Gall y ffordd y mae oedolion yn ymddwyn yn yr amgylchiadau hyn siapio’r ffordd y mae pawb yn ymateb. Mae'n amser i gydbwyso galar, cryfder, cofio, parch, ysbrydolrwydd, ffydd, gwydnwch a charedigrwydd. Gall ein geiriau a'n gweithredoedd gael effaith eang yn yr adegau hyn.
Mae galar yn cymryd amser, nid oes rheolau penodol, ac mae'n amrywio o berson i berson. Peidiwch â synnu bod pobl yn ymateb yn wahanol iawn. Mae aros yn wyliadwrus, bod yn effro i arwyddion o'ch gofid eich hun neu ofid rhywun arall, a gofalu am ei gilydd yn gyffredinol yn helpu.
Mae'n bwysig cydnabod y gall pobl hefyd ddioddef colled heb farwolaeth. Efallai y byddwch chi, neu rywun sy'n agos atoch chi, yn profi:
- Colled yn y teulu oherwydd gwahanu: am fod perthynas wedi chwalu, oherwydd ysgariad, neu am fod rhywun wedi symud allan o’r ardal, gan gynnwys allfudo
- Colli anwylyn yn drawmatig: anaf sydyn i'r ymennydd, clefyd Alzheimer, dementia, neu argyfwng iechyd meddwl hirfaith. Yn y senarios hyn rydych chi'n dal i weld rhywun annwyl, ond yn galaru am y person roeddech chi'n arfer ei adnabod
- Colled economaidd: oherwydd newidiadau mewn diogelwch ariannol trwy golli swyddi, diweithdra, neu ddyled
- Colli diogelwch: lle mae cam-drin domestig wedi cael effaith, neu am fod rhywun wedi cael lladron yn eu cartref neu wedi dioddef ymosodiad
- Colli ymddiriedaeth: aelod o'r teulu wedi bradychu eraill neu rywun yn y teulu’n gaeth i rywbeth
- Efallai fod yr ymateb cenedlaethol i'r pandemig hefyd wedi achosi colli cysylltiad rheolaidd â rhywun, colli cefnogaeth gyda gofal plant neu ddyletswyddau gofalu, colli arferion cyfarwydd, colli ffyrdd arferol o fynegi ysbrydolrwydd, ffydd neu grefydd; colli cyswllt corfforol, colli cymuned, colli cyfleoedd a dyfodol yr oeddent wedi gobeithio ei gael
Nid yw'r awgrymiadau hyn yn cynnig ffordd gywir o fod, ond maen nhw'n awgrymu rhai strategaethau a allai eich cefnogi chi neu'r rhai o'ch cwmpas yn un o gyfnodau anoddaf bywyd. P'un ai chi sy'n cael ei effeithio, neu a ydych chi'n cefnogi pobl eraill.
Pethau i'w gwneud
Mae'r awgrymiadau hyn wedi'u hysgrifennu ar gyfer eich colled neu brofedigaeth bersonol, ond gellir eu haddasu i gyd os oes angen i chi helpu eraill gyda'u galar eu hunain.
Cydnabyddwch a chaniatewch i chi’ch hun deimlo’r teimladau a’r meddyliau hyn ar adegau o golled
- Mae'n normal profi ystod eang o deimladau a meddyliau: e.e. tristwch llethol, hapusrwydd eich bod wedi cael y person yn eich bywyd, dicter eu bod wedi mynd, teimlo wedi eich twyllo am nad oeddech wedi dweud hwyl fawr. Gall rhai pobl hyd yn oed brofi rhyddhad neu euogrwydd a all fod yn ddryslyd, a gall arwain at yr angen am fwy o gefnogaeth gan eraill... caniatewch i chi'ch hun brofi unrhyw rai neu bob un o’r rhain, nid yw'n deimlad anghywir, dyna beth sy’n gywir i chi
- Efallai y byddwch chi'n teimlo ton o alar yn ddirybudd, am eich bod yn cysylltu darn o gerddoriaeth, arogleuon, bwyd neu leoedd penodol â'r person sydd wedi mynd
- Efallai nad ydych yn teimlo unrhyw beth ac yn methu mynegi unrhyw deimladau, ond yn poeni y bydd pobl eraill yn meddwl eich bod yn galon-galed am beidio galaru
- Mae ceisio cydbwyso'r holl emosiynau gwrthgyferbyniol hyn yn gallu eich llethu
- Mae'n iawn rhannu sut rydych chi'n teimlo, ond mae hefyd yn iawn peidio â rhannu
Gall helpu i ddod o hyd i ddelwedd ar gyfer eich galar – yr enw ar y dechneg hon yw delweddu
- Mae rhai pobl yn disgrifio galar fel rhywbeth tebyg i donnau yn golchi drostyn nhw. Mae'r tonnau hyn yn newid eu patrwm dros amser, dydyn nhw ddim yn llinol ... ac yn y pen draw mae'r llanw’n cilio'n raddol
- Gall caniatáu i chi'ch hun ildio i'r emosiwn sy'n llifo drosoch chi fod yn gadarnhaol ar adegau
- Gallai delwedd arall sy'n adlewyrchu sut mae galar yn newid dros amser helpu rhai pobl: mae galar fel pêl yn bownsio mewn ystafell, ac mae’r bêl honno’n lleihau o ran maint dros amser. Dydych chi ddim yn gwybod pryd y bydd yn eich taro chi (yn fwy ac yn amlach ar y dechrau) ond mae'n wahanol gan fod maint y bêl yn lleihau ac yn bownsio llai
- Trwy ddefnyddio trosiad gweledol gallwch chi deimlo mwy o reolaeth dros pryd mae'r teimladau hynny'n mynd â chi, gan ei gwneud hi'n llai tebygol y byddwch chi'n teimlo wedi eich llethu gan alar yng nghanol eich diwrnod gwaith
- Gallwch ganiatáu i chi’ch hun deimlo'r teimladau hyn pan fyddwch chi'n teimlo'n ddigon diogel i wneud hynny
Gallai fod yn ddefnyddiol i ddatblygu naratif i gefnogi eich taith o alar neu golled
- Gallech chi ddatblygu stori sy’n ailadrodd i’ch helpu i feddwl am atgofion da sy'n ymwneud â phwy neu beth rydych chi wedi'i golli. Er enghraifft, drwy stori ysgrifenedig neu stori yn eich meddwl, gallech fynd i fwthyn yn y coed ac wrth i chi fynd i mewn i bob ystafell, byddwch yn rhoi gwrthrych ynddi sy'n dal atgof da
- Efallai y byddwch chi eisiau rhywfaint o help i arwain eich techneg ddelweddu
- I rai pobl, mae siarad am atgofion gyda phobl eraill yn fwy defnyddiol na threulio amser yn datblygu straeon a delweddau yn eu pennau eu hunain
- Os nad oes gennych chi lawer o atgofion hapus neu ddim atgofion hapus o gwbl o'r person, gall hynny ei gwneud hi'n fwy cymhleth i weithio drwy eich galar. Efallai y byddwch chi angen cefnogaeth ychwanegol gan eich teulu, grŵp ffydd, cymuned, ffrindiau a/neu weithwyr proffesiynol
Mae ymdopi â marwolaeth rhywun rydyn ni'n gofalu amdano fel arfer yn brofiad emosiynol
- Wrth i amser fynd heibio, bydd rhai teimladau yn eich cefnogi chi i alaru a gwella a bydd teimladau eraill yn arafu eich iachâd
- Peidiwch â theimlo'n euog os ydych chi'n chwerthin neu'n mwynhau'ch hun yn ystod cyfnod o alaru
- Byddwch yn barchus o’r ffordd y gallai pobl eraill deimlo am alar, ond peidiwch â gadael iddyn nhw ddweud wrthych sut y dylech chi deimlo
- Byddwch yn ymwybodol y gallai teimladau gael eu cyffroi mewn pobl eraill pan fyddant yn clywed am eich galar. Efallai y bydd eich colled chi’n sbardun i gofio eu galar eu hunain. Os ydych chi'n galaru, efallai nad oes gennych chi unrhyw egni emosiynol ar ôl i'w cefnogi nhw hefyd. Ceisiwch eu cyfeirio nhw'n garedig at ffyrdd eraill o gael cefnogaeth
- Eich teimladau chi eich hun yw eich teimladau ac mae gennych chi reswm i'w dal nhw, ond os yw eich teimladau'n negyddol yn bennaf, ar ôl cyfnod o amser efallai y bydd hi'n bwysig gofyn am gymorth. Mae adnoddau awgrymedig wedi eu rhestru ar ddiwedd y daflen awgrymiadau hon
Mae’n naturiol teimlo'n ddig, ond mae aros yn ddig yn gallu bod yn broblem i chi ac i'r bobl sydd o'ch cwmpas
- Gall colled neu brofedigaeth deimlo'n unig iawn, hyd yn oed pan rydyn ni ein hunain yn gwthio pobl i ffwrdd ar brydiau. Gall hyn arwain at deimladau o ddicter, a gall dicter rhwystredig beri inni wthio pobl eraill ymhellach i ffwrdd. Torrwch y cylch drwy dderbyn neu roi gweithrediadau bach o garedigrwydd
- Dywedwch wrth bobl eraill sut rydych chi'n teimlo. Rhowch wybod iddyn nhw eich bod chi'n eu gwerthfawrogi nhw, hyd yn oed os na allwch chi dderbyn eu cymorth eto. Gall hyn fod mewn neges destun, mewn llythyr neu drwy anfon neges drwy drydydd parti. Mae peidio cyfathrebu’n ynysu’r bobl hynny sy’n annwyl i chi, yn ogystal â’ch ynysu chi
- Dewch o hyd i ffordd o gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol - gyda phobl eraill yn ddelfrydol - ond hyd yn oed os ydych chi ar eich pen eich hun, mae ymarfer corff yn gallu bod yn ffordd o gael eich teimladau allan; gall gweithgareddau corfforol helpu i reoleiddio eich emosiynau a chefnogi ymdeimlad o reolaeth a hunan-barch
Camau y gallwch eu cymryd - mae creu atgofion yn bwysig
- Trysorwch rywbeth sy'n cynrychioli atgof melys o'r person sydd wedi marw
- Plannwch flodyn yr oeddent yn ei hoffi mewn pot neu yn yr ardd
- Cadwch lun ar eich gliniadur o le roedden nhw'n ei garu
- Dewiswch gragen neu garreg hyfryd i'w chadw mewn poced neu fag, fel eich bod chi'n caniatáu atgof byr i chi'ch hun bob tro y byddwch chi'n ei dal
- Mae atgofion sy'n gwneud i chi chwerthin yn dda hefyd
- Gall ysgrifennu atgof ar ffurf llythyr neu folawd fod yn gefnogol iawn i chi a'r rhai sydd o'ch cwmpas
- Cynlluniwch ar gyfer y dyddiau y gwyddoch eu bod yn mynd i fod yn anoddach, fel penblwyddi, penblwyddi priodas neu'r Nadolig. Mae'n iawn os yw eraill wedi anghofio nodi'r dyddiau hynny – peidiwch â'u barnu nhw, mae pob person yn ymdopi yn ei ffordd ei hun
Nid yw 'ymdopi'n rhy dda' yn rhywbeth y dylech ei ddweud
- Byddwch yn barchus o sut mae pobl eraill yn rheoli eu colled neu eu profedigaeth, hyd yn oed os ydyn nhw'n ymddangos fel nad ydyn nhw'n poeni cymaint â chi. Cofiwch y trosiad am donnau - efallai eu bod nhw mewn lle gwahanol i chi o ran eu tonnau
- Dydyn ni ddim yn gwybod sut mae pobl eraill yn teimlo a sut y gallan nhw alaru'n dawel ac yn breifat
- Nid oes angen i bawb alaru yn gyhoeddus, neu am amser hir – nid yw hynny’n golygu nad oeddent yn caru’r person
- Gall cadw atgofion cadarnhaol a gwybod eich bod wedi cael perthynas dda olygu eich bod yn teimlo llai o angen i alaru
- Nid yw cuddio teimladau yr un peth ag ymdopi. Bydd angen mynd i'r afael â theimladau cuddiedig rywbryd yn nes ymlaen
Nid oes 'amser da' i roi'r gorau i galaru. Nid yw galar yn llinol
- Mae galar yn broses naturiol i helpu pobl i wella o golled neu farwolaeth
- Mae'n iawn dal i feddwl am y rhai rydyn ni wedi'u colli mor aml ag rydyn ni'n dewis
- Mae'n ddefnyddiol cynnwys neu ddal y teimladau hynny, ar ôl cyfnod o alaru, fel nad yw galar yn ein hatal ni rhag byw ein bywyd gorau
- Mae'n iawn gadael i fywyd ddechrau tyfu eto o amgylch eich galar
- Os yw eich galar yn parhau i effeithio ar eich lles, eich bywyd teuluol, eich perthnasoedd neu'ch gallu i wneud eich gwaith, yna efallai y bydd angen i chi ofyn am ychydig o gymorth. Mae adnoddau awgrymedig wedi eu rhestru ar ddiwedd y daflen awgrymiadau hon
Gall galaru fod yn anodd pan fyddwch chi wedi'ch amgylchynu gan bobl a phlant sydd â'u hanghenion uniongyrchol eu hunain mewn lleoliad addysgol
- Gadewch i'ch gwaith dynnu eich sylw, ond bydd adegau pan fydd eich galar yn tynnu eich sylw oddi wrth eich gwaith hefyd. Siaradwch â chydweithiwr os nad yw'r cydbwysedd hwn yn iawn i chi neu'r plant rydych chi'n gweithio â nhw
- Efallai y byddwch chi'n gweld bod galar yn eich llethu ar adegau. Adeiladwch strategaethau i’ch helpu i reoli hyn, er enghraifft, cadwch garreg yn eich poced i'w dal pan fyddwch angen eiliad i ail ganolbwyntio
- Byddwch yn ymwybodol o'r gwersi sydd i ddod. Os yw'r cwricwlwm yn gofyn bod y dosbarth yn dysgu am enedigaeth, gallai hyn fod yn gysylltiedig â'ch colled eich hun. Gallech geisio newid trefn y cwricwlwm, neu siarad â'ch arweinydd tîm am gyfnewid â rhywun arall ar gyfer y gyfres honno o wersi
- Efallai ei bod hi'n bwysig i chi rannu'r sefyllfa rydych ynddi gyda’r plant. Gallai fod o fudd i chi ymarfer yr hyn rydych chi am ei ddweud gyda chydweithiwr yn gyntaf. Mae plant yn gallu dangos empathi go iawn, ond mae'n bwysig nad ydyn nhw'n cymryd eich tristwch fel eu baich eu hunain
Gallwch ddisgwyl i'r tîm yn eich lleoliad addysg eich cefnogi chi ar yr adeg hon
- Dylai bod gan eich lleoliad bolisi sy'n ymwneud ag absenoldeb mewn amgylchiadau arbennig, sydd wedi'i gynghori gan Undebau Llafur. Os nad oes gennych chi un, neu os nad yw wedi cael ei ddiweddaru ers tro, efallai mai dyma rywbeth y gallech chi ymchwilio iddo neu ei ddiwygio (gwelwch yr adran adnoddau)
- Gall cael 'cyfaill' neu gydweithiwr a fydd yn eich cefnogi yn ystod eich proses o brofedigaeth wneud gwahaniaeth mawr
- Ni fydd gan bob lleoliad addysg ddigon o le i chi gael lle bach tawel i fyfyrio os oes ei angen arnoch chi, felly efallai yr hoffech gytuno i fynd oddi ar y safle yn ystod amser egwyl ac amser cinio am ychydig funudau i'ch helpu i ymdopi - naill ai gyda chydweithiwr neu ar eich pen eich hun
- Efallai y bydd hi'n ddefnyddiol i chi siarad ag uwch reolwr am yr hyn rydych chi'n teimlo fydd eich anghenion tra byddwch yn yr ysgol yn dilyn colled.
- Os yw eistedd yn eich car am bum munud ar ddechrau'r dydd yn 'normal' i chi am ychydig, byddai’n ddefnyddiol i chi roi gwybod i eraill
- Cofiwch, gall fod yn anodd iawn i gydweithwyr wybod sut a phryd i'ch cefnogi ar yr adegau hyn. Efallai y bydd angen ychydig o help arnyn nhw i wybod beth fyddai’n gefnogol
Cymerwch amser i ddysgu am brofedigaeth a galar pan nad ydych chi'n cael eich llethu gan deimladau o'r fath eich hun
- Mae'n helpu i ddeall yr ystod arferol o hwyliau, meddyliau a theimladau a all ddod gyda galar
- Gall fod yn bwysig gwybod sut mae colled a galar yn cael eu cefnogi gan wahanol grefyddau a diwylliannau
- Cymerwch amser i ystyried sut mae marwolaeth a cholled yn cael eu trin mewn ffilm a llenyddiaeth
Pethau i'w gwybod
Cofiwch eich anghenion eich hun - Beth i'w wneud
- Cadwch yn iach
Daliwch ati i fwyta prydau rheolaidd a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, hyd yn oed os mai dim ond mynd am dro byr a chyflym yw hynny, a chadwch at arferion cysgu da (hyd yn oed os na allwch gysgu'n dda) - Cadwch yn ddiogel
Sicrhewch angor emosiynol diogel i chi'ch hun; mae'r bobl a'r credoau sy'n ganolog i chi yn bwysig ar adegau fel hyn. Efallai mai eich ffydd yw hynny, neu eich cymuned, partner, teulu, ffrindiau; pethau sy'n rhoi ystyr a sefydlogrwydd i'ch byd. Chwiliwch am gymorth os nad ydych chi'n ymdopi - Perthyn
Cadwch atgof da yn eich cof, cadwch mewn cysylltiad â’ch cysylltiadau cymdeithasol. - Teimlo'n dda
Myfyriwch ar bethau cadarnhaol yn eich perthnasoedd yn y gwaith ac yn y cartref - Byddwch yn garedig i chi'ch hun
Chwiliwch am hyfforddiant a gwybodaeth am golled a galar - Rhoi yn ôl
Cofiwch y 5 Egwyddor i gefnogi lles a meithrin gwydnwch: perthnasoedd – estyn allan at eraill am gefnogaeth, cydnabyddiaeth – sylwi ar arwyddion o ofid, myfyrio – hunanymwybyddiaeth a dewisiadau, rheoleiddio – cymorth gyda theimladau ac ymddygiad, gwydnwch – er mwyn gallu gwella.
Cofiwch eich anghenion eich hun - Pethau i beidio eu gwneud
- Rhoi amserlenni afrealistig i chi'ch hun i 'deimlo'n well’
- Meddwl drwy’r amser am yr hyn y gallech fod wedi'i ddweud neu ei wneud
- Cau’r drws ar y rhai a allai fod yn gefnogaeth dda i chi pan fyddwch chi'n barod
- Gorfodi eich barn a'ch teimladau'n anfwriadol ar y rhai rydych chi'n eu cefnogi
- Teimlo bod y person rydych yn eu cefnogi’n troi eu cefn arnoch chi am nad ydyn nhw’n barod i siarad. Byddwch ar gael pryd bynnag y maen nhw eisiau gwneud hynny
I rai cydweithwyr, mae nodweddion neu elfennau bregus eraill yn gallu gwneud colled yn cael ei gwneud yn fwy cymhleth
- Colled drawmatig flaenorol, neu gamdriniaeth
- Cyfrifoldebau gofalu
- Hil, diwylliant neu ffydd nad yw'n cael ei rhannu gan eraill
- Cyfyngiadau ar ddefodau crefyddol neu ffydd arferol, wedi'u cyfyngu gan y pandemig
- Diffyg derbyniad, neu wrthodiad gan aelodau'r teulu
- Salwch corfforol neu seiciatrig teuluol parhaus
- Elfennau corfforol bregus
- Anawsterau iechyd meddwl
- Anableddau cudd
Rhai arwyddion sy’n rhybuddio efallai fod angen cymorth ychwanegol ar berson
- Tristwch neu iselder parhaus, gyda llai o ddiddordeb mewn gweithgareddau dyddiol. Gall hyn amrywio yn ystod y dydd; efallai y bydd hyd yn oed adegau o bleser a llawenydd ond y prif hwyliau yw tristwch
- Tynnu'n ôl oddi wrth ffrindiau
- Hunan-niweidio a meddyliau neu weithredoedd hunanladdol: efallai y bydd angen asesiad brys arnynt yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl y GIG
- Methu cysgu, colli eu harchwaeth, neu ddatblygu ofn hirfaith o fod ar eu pen eu hunain
- Gostyngiad sydyn mewn perfformiad yn y gwaith
- Yn esgeuluso eu hunain
- Gwrthod credu bod y person wedi marw neu fod y digwyddiad wedi digwydd
- Yn siarad dro ar ôl tro am fod eisiau ymuno â'r person marw. Efallai y bydd angen asesiad brys arnynt gan Wasanaethau Iechyd Meddwl y GIG
- Mae anawsterau'n gwaethygu neu mae problemau newydd yn parhau
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu parhau â'u cyfrifoldebau personol a gwaith, ond nid yw hynny'n lleihau pa mor boenus y gall y broses hon fod
Gall gymryd amser. Mae angen cymorth ychwanegol ar rai pobl i wella. Nid arwydd o wendid yw hyn – gall y bobl fwyaf cydwybodol, gweithgar a chyfrifol gael eu taro galetaf
- Os nad yw pethau'n gwella o gwbl (i chi), siaradwch yn gyntaf â theulu a ffrindiau neu gefnogaeth gymunedol arall. Ystyriwch ddefnyddiollinell gymorth Cymorth Addysgneugymorth Iechyd Meddwl y GIG. Os gallwch chi, trafodwch sut rydych chi'n teimlo gyda chydweithiwr, arweinydd tîm neu aelod o'ch uwch dîm arweinyddiaeth. Efallai y byddwch chi'n teimlo bod angen cefnogaeth arnoch chi gan eich sefydliad ffydd neu sefydliad cymunedol neu ewch at eich meddyg teulu i gael cyngor proffesiynol. Efallai yr hoffech ymgynghori â gwasanaethau cymorth seicolegol ffurfiol felIAPT– gallwch hunangyfeirio. Cofiwch fod eich iechyd seicolegol yr un mor bwysig â'ch iechyd corfforol
- Rydym yn tueddu i chwilio am ystyr, yn enwedig os yw rhywun agos atom wedi marw mewn amgylchiadau sydyn neu drawmatig, os oedd eich perthynas â'r ymadawedig yn anodd, neu os oedd problemau ar ôl oedd heb eu datrys. Rydym yn ceisio darganfod pam y digwyddodd y digwyddiad. Mae beio rhywun arall neu ein beio ni ein hunain, neu deimlo'n euog, yn anghywir fel arfer a bron bob amser yn ddi-fudd wrth geisio goresgyn y profiadau hyn, ond yn aml mae'n anodd delio â'r teimladau hyn ar ein pennau ein hunain
- Gall fod yn ddefnyddiol dweud wrthych chi'ch hun neu wrth gydweithiwr, 'nid eich bai chi oedd hyn' neu 'digwyddodd hyn i chi, ond nid o'ch achos chi', 'gwnaethoch chi bopeth o fewn eich gallu, byddai'r rhan fwyaf o bobl wedi gwneud yr un peth' neu 'fyddech chi byth mor galed â hyn ar unrhyw un arall'. Gall hyn helpu i wrthweithio'r duedd o deimlo’n euog a beio’r hunan
- Efallai y byddwch chi eisiau ac angen ymyrraeth seicolegol hirach a mwy trylwyr. Mae hynny'n eithaf cyffredin yn yr amgylchiadau hyn, yn enwedig ar ôl i'r argyfwng fynd heibio. Gofynnwch. Rydych chi'n ei haeddu. Gall ffonio llinell gymorth, felCymorth Addysgfod yn gam cyntaf i rai, a gallwch chi bob amser ffonio’rSamariaid unrhyw bryd. Dylai eich rheolwr llinell, Iechyd Galwedigaethol, Meddyg Teulu neu reolwr hefyd allu eich cyfeirio at gymorth pellach
- Mae’r cymorth cyntaf sy'n seiliedig ar seicoleg ar gyfer pob oedran sydd wedi'i ddangos yma yn rhoi fframwaith i gefnogi cydweithwyr y gallech fod yn poeni am eu hiechyd meddwl
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gweld bod y boen o golled neu brofedigaeth yn lleddfu dros amser heb fewnbwn arbenigol
- Mae galar yn beth personol, felly byddwch yn garedig wrthych chi'ch hun, peidiwch â barnu'ch hun ar sut mae eraill wedi ymdopi, ond arhoswch yn obeithiol gymaint ag y gallwch.
Adnoddau
Adnoddau pellach i chi'ch hun ac i'r rhai yn eich cymuned addysg
Polisïau model eraill ar gyfer cefnogi staff sydd wedi colli rhywun
- CRUSE – Datblygu polisi profedigaeth ysgol
- Swydd Rydychen – Enghraifft o bolisi absenoldeb rhieni ar ôl profedigaeth ar gyfer y staff
- Sydyn – Polisi profedigaeth yr ysgol
Undebau Llafur a Chyrff Proffesiynol
I blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan golled a marwolaeth
- Canolfan Anna Freud - Galar a Cholled
- Child Bereavement UKGwybodaeth benodol i’r sector addysg, yn cynnwys sgwrs fyw o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00-5.00 a Llinell Gymorth 0800 02 888 40
- Child Bereavement UK a London Grid for LearningRheoli Marwolaeth Sydyn yn y Gymuned
- Cruse - amrywiaeth o daflenni a allai fod yn ddefnyddiol, gan gynnwys yn y Gymraeg
- Cruse - gwybodaeth os bydd aelod o staff yn marw
- Fframwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal profedigaeth
- Manchester Resilience Hub
- Sesiwn e-ddysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar MindEd
- Adnoddau Cenedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad
- Winston's Wish - hyfforddiant galar ar-lein am ddim sydd ar gael heb dâl ar ôl cofrestru
- Young Minds - Galar a Cholled
I Rieni a Gofalwyr
- MindEd i Deuluoedd - Marwolaeth a Cholled gan gynnwys anifeiliaid anwes
- MindEd i Deuluoedd - Siarad gyda fy Mhlentyn Ifanc neu yn eu Harddegau
Ffynonellau iechyd meddwl ehangach
- Canolfan Anna Freud
- Ymddiriedolaeth Charlie Waller
- Canllawiau i rieni a gofalwyr ar gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19)
- MindEd i Deuluoedd
- Coleg Brenhinol y Seiciatryddion - gwybodaeth am wahanol anhwylderau iechyd meddwl gyda gwybodaeth i gleifion, gofalwyr, teulu a ffrindiau sy'n ymwneud â phroblemau ac anhwylderau iechyd meddwl - gyda thaflenni am ddim y gellir eu lawrlwytho
- Young Minds
Grwpiau cymorth a sefydliadau gofal eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi
- Assist Trauma Care– Yn cynnig cwnsela a chefnogaeth dros y ffôn i unigolion a theuluoedd yn sgil trawma. Ffôn: 01788 551919
- Cruse– Gofal Galar – Yn cynnig cwnsela, cyngor a chefnogaeth ledled y DU. Ffôn: 0808 808 1677
- Prosiect Ymyrraeth Trais Domestig– yn cynnig cyngor a chefnogaeth i unigolion a theuluoedd sydd wedi profi trais domestig yn ogystal ag unigolion sydd eisiau newid eu hymddygiad. Ffôn: 020 7633 9181.
- Drinkaware– yn cynnig ffeithiau, cyngor a chefnogaeth i reoli yfed. Ffôn: 020 7766 9900
- Relate– yn cynnig cefnogaeth perthnasoedd i gyplau a theuluoedd. Ffôn: 0300 0030396
- Y Samariaid– yn cynnig llinell gymorth 24 awr i’r rhai sydd mewn argyfwng. Ffôn: 116 123
- Stonewall– yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i gymunedau hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thraws. Ffôn: RHADFFON 0800 0502020
Cydnabyddiaethau
Ysgrifennwyd a golygwyd cynnwys yr awgrymiadau hyn gan Dr Raphael Kelvin a Dr Julie Greer. Maent yn defnyddio’r gyfres o awgrymiadau ar Hwb MindEd a mewnbwn gan ein grwpiau cyfeirio o arbenigwyr gofal iechyd ac addysg, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt.
Grŵp cyfeirio addysg:
John Dexter, John Ivens, Margaret Mulholland, Steve Rippin, Jason Turner
Grŵp rhanddeiliaid ehangach:
Joanna Holmes, Lisa Shostack, Mina Fazel, Sinead McBrearty, Andy Bell, Ray McMorrow, Faye McGuinness, Sarah Hannifan, James Brown, DFE (Emma Woodshaw), Sarah Lyons, Steve Cooper
Ymwadiad
Mae MindEd wedi’i greu gangrŵp o sefydliadauac mae wedi’i ariannu gan Addysg Iechyd Lloegr, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Adran Addysg.
Mae elfh yn Rhaglen gan Addysg Iechyd Lloegr mewn partneriaeth â'r GIG a Chyrff Proffesiynol.
© 2022 Education Support Limited, MindEd / Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac Addysg Iechyd