Ymarfer myfyriol diwedd y flwyddyn
Gall yr ymarfer myfyriol hwn eich helpu i ailgysylltu â llawenydd gweithio ym myd addysg, trwy ganiatáu i chi gydnabod yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni ac effaith eich gwaith.
Guides / 2 min read

Gall yr ymarfer myfyriol hwn eich helpu i ailgysylltu â llawenydd gweithio ym myd addysg, trwy ganiatáu i chi gydnabod yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni ac effaith eich gwaith.
Os ydych chi'n rhy brysur drwy'r amser a byth yn cael yr amser i fyfyrio yna fe allech chi hefyd fod yn colli allan ar y cyfle i wneud dewisiadau gwell, gwella eich ymarfer, cefnogi cydweithwyr a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i ddisgyblion.
Mae diwedd y tymor neu’r flwyddyn academaidd yn gyfle gwych i drefnu amser myfyrio – a does dim rhaid iddo gymryd yn hir! Os ydych chi'n arweinydd neu'n rheolwr llinell, efallai yr hoffech chi ystyried rhannu'r ymarfer 10 munud cyflym hwn gyda'ch tîm, a chaniatáu amser penodol iddyn nhw ei gwblhau.
Gweler yr adnodd cyfan isod.
Ymarfer myfyriol diwedd y flwyddyn
Cyflwyniad
Mae'r arweinydd addysg a'r awdur, Dr Tiffany A Carr, yn rhannu bod ymwybyddiaeth a myfyrdod yn hanfodol i athrawon a staff addysg er mwyn meithrin gwytnwch. Eto i gyd, mae hi'n cydnabod mai thema sy'n codi dro ar ôl tro mewn ymchwil ar orweithio yn y sector yw amser (neu ddiffyg amser!).
Mae hi'n awgrymu ei bod yn hanfodol cael amser yn eich dyddiadur i fyfyrio ar eich ymarfer. Gall hyn eich helpu i ailgysylltu â llawenydd gweithio ym myd addysg, trwy ganiatáu i chi gydnabod yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni ac effaith eich gwaith. Os ydych chi'n rhy brysur drwy'r amser a byth yn cael yr amser i fyfyrio yna fe allech chi hefyd fod yn colli allan ar y cyfle i wneud dewisiadau gwell, gwella eich ymarfer, cefnogi cydweithwyr a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i ddisgyblion.
Mae diwedd y tymor neu’r flwyddyn academaidd yn gyfle gwych i drefnu amser myfyrio – a does dim rhaid iddo gymryd yn hir! Os ydych chi'n arweinydd neu'n rheolwr llinell, efallai yr hoffech chi ystyried rhannu'r ymarfer 10 munud cyflym hwn gyda'ch tîm, a chaniatáu amser penodol iddyn nhw ei gwblhau.
10 munud: myfyrdod diwedd y flwyddyn
Beth am fachu paned a cheisio dod o hyd i lecyn tawel (os gallwch chi!), i setlo a myfyrio ar sut mae'r flwyddyn academaidd ddiwethaf wedi bod i chi. Ceisiwch ateb y cwestiynau hyn yn eich meddwl neu ar bapur os yw hynny'n haws i chi.
- Beth oedd eich hoff foment gyda myfyriwr neu gydweithiwr eleni?
- Gyda pha gydweithiwr ydych chi wedi cysylltu eleni a pham?
- Pa agwedd o'ch rôl ydych chi wedi'i mwynhau fwyaf eleni?
- Beth sydd wedi eich gwneud yn fwyaf balch o fod yn gweithio yn eich lleoliad addysg eleni?
- Pa strategaeth hunanofal sydd wedi eich helpu fwyaf eleni a pham?
- Pa heriau wnaethoch chi eu goresgyn eleni? Wnaethoch chi ddysgu unrhyw beth ganddyn nhw? Os felly, sut gallai hyn fod o fudd i chi yn y dyfodol?
- Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf am y flwyddyn academaidd nesaf?
Nawr cymerwch gam yn ôl a gofynnwch i chi'ch hun: a wnaeth eich atebion eich synnu mewn unrhyw ffordd? Allwch chi fod yn llai caled arnoch chi'ch hun y flwyddyn nesaf? Oes angen i chi fod yn fwy tosturiol gyda chi'ch hun?
Efallai y byddwch hefyd am edrych ar ein hadnoddau rhad ac am ddim am adeiladu perthnasoedd iach yn y gweithle a gofalu amdanoch eich hun yn ystod y gwyliau (Saesneg yn unig):
- Gorffwys ac adennill eich llawenydd: myfyrio ar eich blwyddyn academaidd
- Gwella perthnasoedd yn y gweithle
- Ffiniau, gorffwys a gadael i fynd
- Haf hunanofal
- Gofalu am eich lles yr haf hwn
- Ymlacio dros yr haf: sut i orffwys a magu nerth newydd
Cymorth a chefnogaeth bellach
Gall yr holl athrawon a staff addysg ffonio llinell gymorth rhad ac am ddim a chyfrinachol Cymorth Addysg 24/7 i gael cymorth emosiynol ar unwaith: 08000 562 561. Byddwch yn siarad â chynghorydd cymwys ar unwaith.
Gall arweinwyr ysgol gael mynediad at oruchwyliaeth broffesiynol a ariennir yn llawn yng Nghymru a Lloegr.
Gall staff ysgolion yng Nghymru gael mynediad at gymorth a ariennir gan ein Gwasanaeth Lles Staff yng Nghymru
Ffynonellau
Joy in teaching: a research based frame-work of action for educators, Dr Tiffany A Carr, 2018 www.joyinteaching.com/what-does-it-meanto-live-an-examined-life-in-education/
Don’t wait for a crisis to call.
We’ll offer you immediate, emotional support.
08000 562 561

Sign up to our newsletter for the latest mental heath and wellbeing resources, news and events straight to your inbox.
