5 awgrym ar gyfer gwrando gweithredol: rhowch gynnig arnynt
Mae gwrando gweithredol yn sgil bwysig i arweinwyr ysgol ei datblygu i helpu i feithrin perthnasoedd â'u staff. Dyma rai pwyntiau allweddol i'w cofio wrth gael sgyrsiau gyda'ch cydweithwyr.
Articles / 2 mins read
Mae arweinwyr ysgol gwych yn aml yn wrandawyr gwych. Mae gwrando'n weithredol ar gydweithwyr yn meithrin ymddiriedaeth, yn cryfhau perthnasoedd ac yn annog cydweithredu. Mae'n sgil hanfodol mewn bywyd a'r gweithle, gan gael effaith ddofn ar effeithiolrwydd ein gwaith a'n perthynas â'n cydweithwyr.
Dysgodd yr addysgwr a'r awdur, Stephen Covey, nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwrando gyda'r bwriad o ddeall. Maen nhw'n gwrando gyda'r bwriad o ymateb. Mae hefyd yn dadlau bod y cyfathrebwyr mwyaf effeithiol yn wrandawyr gwych.
Mae'n bwysig peidio ag anghofio, fel gydag unrhyw sgil, bod gwrando gweithredol yn cymryd amser ac ymarfer. Peidiwch â rhoi pwysau arnoch chi'ch hun i fod yn berffaith trwy'r amser. Bydd cymryd camau bach a gwneud newidiadau graddol i'r ffordd rydych chi'n gwrando yn haws i'w cyflawni a byddwch yn llawer mwy tebygol o’u cofio.
Mae'r awdur a'r siaradwr, Jacob Morgan, yn awgrymu ymarfer gwrando gweithredol gan geisio gofyn y cwestiynau hyn i’ch hun wrth gymryd rhan mewn sgwrs gyda chydweithiwr yn yr ysgol:
Iaith y Corff
Sut ydych chi'n sefyll neu'n dal eich corff? Gall y ffordd rydych chi'n dal eich hun ddangos a ydych chi'n canolbwyntio ar yr unigolyn rydych chi'n siarad ag ef ac yn barod i dderbyn ei neges.
Deall
Ydych chi wir yn gwrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud? Mae'n hawdd sefyll a nodio'ch pen ac edrych fel pe baech yn gwrando, yna ar ôl y sgwrs rydych chi’n sylweddoli nad ydych chi'n ei chofio'n llawn.
Torri ar draws
Ydych chi'n torri ar draws? Gall torri ar draws rhywun fod yn rhwystredig iddynt ac ymddangos fel bod yr hyn sydd gennych i'w ddweud yn bwysicach na'r hyn y mae'r person arall yn ei ddweud.
Edrychwch arnynt
Ydych chi'n edrych arnynt? Mae edrych ar rywun (yn hytrach na gorffen yr hyn rydych chi'n ei ysgrifennu neu wirio'ch ffôn!) yn dangos eich bod chi'n talu sylw ac yn gwerthfawrogi'r hyn maen nhw'n ei ddweud.
Peidio â barnu
Ydych chi'n bod yn feddwl agored? Gall eich helpu i roi eich hun yn esgidiau'r person arall. Gall mynd i mewn i sgwrs gyda meddylfryd beirniadol ddinistrio'r potensial ar gyfer cynnydd neu dwf. Yn lle hynny, defnyddiwch empathi.
Cymerwch olwg ar y fideo cyflym 5 munud hwn i ddysgu mwy am yr awgrymiadau uchod. (Saesneg yn unig)
Ffynonellau (Saesneg yn unig)
- 5 easy ways to practice active listening by Jacob Morgan (BUILD):
https://jacobm.medium.com/5-ways-to-practice-active-listening-924b58746494 - The 7 Habits of Highly Effective People, Stephen Covey, 1989.
Our service provides emotional and practical support that helps you and your colleagues thrive at work.
Fully funded professional supervision for school and FE college leaders in England and Wales.