Cynorthwywyr Addysgu - Diffygio a sut i'w osgoi
Mae bod yn gynorthwy-ydd addysgu yn werth chweil.
Nid oes dau ddiwrnod byth yr un fath! Ond mae hefyd yn flinedig, yn feddyliol ac yn gorfforol.
Yn aml mae'r rhai y tu allan i'r ysgol yn gweld wythnosau o wyliau, dyddiau byrrach, ynghyd ag ambell ddiwrnod INSET yn cael eu taflu i'r gymysgedd, gan adael rhai i feddwl pam rydym yn cael trafferth ar adegau.
Nid yw llawer yn gweld y beichiau a roddir ar gynorthwywyr addysgu yn enwedig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf pan mae ystafelloedd dosbarth ac ysgolion wedi cael eu cadw'n agored ar adegau oherwydd ymrwymiad cynorthwywyr addysgu. Nid yn unig yr ydym yn ymddangos ein bod yn ceisio dysgu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd llwyddiannus i'r cenedlaethau nesaf, rydym hefyd yn cael ein gofyn i chwarae rôl gymdeithasol enfawr mewn ysgolion sydd â phrinder.
Mae ansicrwydd ynghylch cyflogau a chontractau yn ychwanegu at straen y swydd. Nid yw'n syndod felly, fod llawer o gynorthwywyr ystafell ddosbarth yn wynebu diffygio ac yn ystyried opsiynau gwaith eraill.
Felly beth ywdiffygio a sut y gellir ei osgoi?
Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o fod wedi diffygio ond gall rhai dorri i ffwrdd yn haws nag eraill, a gall hyn ynddo'i hun fod yn straen. Os mai chi yw'r un sy'n gwneud yr ychwanegol, rydych chi'n sylwi ar y rhai nad ydynt yn gwneud. Gan arwain at gylch dieflig.
Efallai cymhelliant/gwobr i'r rhai sy'n mynd y filltir ychwanegol!
Beth yw Diffygio?
Mae'r rhan fwyaf ohonom yn cael straen yn y gwaith ar ryw adeg. Mae diffygio yn digwydd o ganlyniad i straen parhaus nad yw byth yn gostwng. Mae hyn oherwydd cyfnodau hir o ddwysedd a gofynion gormodol ar ynni, cryfder ac adnoddau.
Bathodd Herbert Freudenberger y term yn y 1970au.
Cydnabyddodd fod proffesiynau sy'n cynnwys ymdeimlad cryf o foesoldeb neu bwrpas, ac ymrwymiad gan weithwyr sy'n aberthu eu hunain er lles pobl eraill, mewn perygl fwyaf.
Nid yw'n rhyfedd bod cynorthwywyr addysgu mewn perygl o ddiffygio.
Sut y gellir osgoi diffygio?
Yn anffodus, nid oes ateb pendant i hyn. Fel unigolion, mae ein goddefiannau straen yn amrywio. Yr hyn sy'n gallu helpu yw dealltwriaeth o arwyddion diffygio a'r mesurau rhagweithiol y gellir eu rhoi ar waith i'w osgoi. Mae angen i ni ofalu amdanom ein hunain a'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw, os ydym am gadw athrawon gwych yn dysgu.
Adnabod yr arwyddion
Ystyrir bod gan ddiffygio amrediad eang o symptomau fodd bynnag, tri phrif arwydd y cyflwr yw:
Blinder
Ar gyfer cynorthwywyr addysgu gall hyn gynnwys blinder emosiynol a chorfforol. Gall tystiolaeth o hyn fod yn rhwystredigaeth ac anniddigrwydd, newidiadau hwyliau, nam ar ganolbwyntio, blinder cronig ac anhunedd yn ogystal â symptomau corfforol fel mwy o salwch, crychguriadau, poen gastroberfeddol, cur pen a phendro.
Datgysylltu o'r swydd
Ar gyfer cynorthwywyr addysgu gall hyn ddatblygu fel sinigiaeth a phesimistiaeth tuag at y swydd, myfyrwyr, cydweithwyr neu'r ysgol ei hun. Efallai y byddai'n well gan yr unigolyn sydd wedi diffygio osgoi cyswllt ac ymwneud ag eraill, a phrofi colli mwynhad o'r pethau a ddaeth â phleser unwaith.
Perfformiad gostyngol
Ar gyfer cynorthwywyr addysgu gall hyn ddatblygu trwy deimladau negyddol, diffyg cynhyrchiant a pherfformiad gwael. Gall tystiolaeth o hyn fod yn deimladau o anobaith a difaterwch, hunanhyder isel, mwy o anniddigrwydd â’ch hunan ac eraill, mwy o amser a dreulir yn cwblhau tasgau a difaterwch at fod eisiau gwneud hynny.
“Mae angen i ni ofalu amdanom ni ein hunain a'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw os ydym am gadw cynorthwywyr addysgu gwych mewn ysgolion.”
Er efallai na fydd yn bosibl dileu diffygio o fewn y proffesiwn, mae ffyrdd y gallwn gymryd camau i'w osgoi ynom ein hunain.
5 cam ar gyfer osgoi diffygio
Byddwch yn ymwybodol o'ch emosiynau a'ch lefelau straen eich hun
Sicrhewch eich bod yn gwneud amser i 'wirio i mewn' â chi'ch hun. Gall strategaethau fel ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrdod a chadw dyddiadur fod yn ddefnyddiol fel y gall siarad ag eraill (neu hyd yn oed eich hun). Mae cael ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o straen, diffygio ac iechyd meddwl yn amhrisiadwy i ddeall eich hun. Mae'n bwysig eich bod chi'n cymryd yr amser i ddysgu amdanoch chi ac yn cymryd amser i 'wirio i mewn' cyn fod ei angen arnoch chi.
Cymerwch gyfrifoldeb am eich llesiant
Mae cynorthwywyr addysgu yn ddynol yn unig. Dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud yn yr amser sydd gennym. Mae angen i ni gydbwyso ein gwaith a'n bywydau ein hunain, tra hefyd yn ffitio gorffwys ac ymlacio i mewn. Bydd gan bob un
ohonom fersiwn wahanol o'r hyn y mae'n ei olygu i gael llesiant da a chydbwysedd gwaith-bywyd hapus.
Eto yn rhy aml o lawer, rhoddwn ein myfyrwyr o flaen ein hunain, nid yw rhoi eich hun o flaen gwaith yn anghywir, fel y dywed yrhen ddywediad, ni allwch arllwys o gwpan gwag. Os ydych am ofalu am eich myfyrwyr a darparu'r addysg orau i’ch myfyrwyr, mae'n rhaid i chi dreulio amser yn ailymegnïo a gofalu am eich iechyd a'ch llesiant hefyd.
Cymerwch amser yn gwneud y pethau rydych chi'n eu mwynhau; treuliwch amser gyda theulu a ffrindiau, ewch y tu allan a mwynhewch y byd. Cynlluniwch eich gwyliau a'ch penwythnosau ymlaen llaw fel na chewch eich temtio i weithio yn unig. Rhowch seibiant i chi'ch hun.
Cwestiynwch cyn dweud, “ie”.
A siarad yn gyffredinol, mae cynorthwywyr addysgu am wneud y gorau i'w myfyrwyr, maen nhw hefyd am fod yn dda yn yr hyn maen nhw'n ei wneud. Mae hynny'n golygu ein bod weithiau'n cymryd mwy nag y dylem am ddim tâl ychwanegol.
Os gofynnir i chi wneud rhywbeth gwahanol neu y tu hwnt i gyfrifoldebau arferol eich rôl, meddyliwch cyn dweud ie. Cwestiynwch y cais mewn perthynas â'ch oriau gwaith, a'r amser y bydd yn ei gymryd i'w wneud. Gall hyn deimlo'n anodd neu'n lletchwith ar y dechrau ond o’i wneud yn ysgafn a chyda charedigrwydd mae'r mathau hyn o sgwrs fel arfer yn arwain at well dealltwriaeth rhwng rheolwyr llinell a chynorthwywyr addysgu.
Derbyniwch ei bod weithiau'n iawn i ddweud na.
Mae'n iawn dweud na allwch wneud rhywbeth, boed hynny oherwydd amser cyfyngedig, rhestr enfawr o bethau i’w gwneud eisoes neu'r effaith gyfyngedig y bydd yn ei chael ar fyfyrwyr
canlyniadau; weithiau mae'n rhaid i chi ddweud “mae’n ddrwg gen i, alla i ddim gwneud hynny”. Pan fydd eisiau’r gorau arnoch i'r rhai o'ch cwmpas, gall fod yn anodd dweud na i bethau, ond ystyriwch yr effaith, yr amser a'ch llesiant.
Neu ceisiwch siarad â'ch rheolwr llinell a gofyn rhywbeth fel, “Allan o'r cyfrifoldebau hyn sydd gen i pa un ddylwn i flaenoriaethu nawr mae gen i ychwaneg? I ba un ddylwn i roi llai o amser iddo?”
Sicrhewch gymorth pan fydd ei angen arnoch chi.
Defnyddiwch y cymorth sydd ar gael i chi. Weithiau mae'n anodd siarad â phobl rydych chi'n agos atynt ac hyd yn oed yn anoddach siarad â dieithryn. Ond gallant wrando, cynorthwyo a gallant hyfforddi ac arwain i'ch helpu i ddarganfod atebion sydd orau i chi.
Felly cofiwch fod y llinell gymorth am ddim a chyfrinachol yma 24/7 ledled y DU ar 08000 562 561 ar gyfer yr holl staff addysg.