Cynorthwywyr Addysgu - Iselder: sylwi ar symptomau a beth i'w wneud nesaf
Mae llawer ohonom yn byw gydag iselder (salwch meddwl y cyfeirir ato fel anhwylder hwyliau) ac mae'n fwy cyffredin ymysg staff addysg na'r boblogaeth gyffredinol. Y newyddion da, fodd bynnag, yw bod cynnydd wedi bod yn y modd yr ydym yn trin, derbyn, ac yn deall iselder. Darllenwch ymlaen i gael arweiniad os ydych chi'n credu y gallai fod gennych iselder.
Yn ôl y GIG, mae iselder yn fwy na dim ond teimlo'n anhapus neu'n cael llond bol am ychydig ddyddiau. Gwyddom fod gweithwyr proffesiynol addysg yn arddangos lefel llawer uwch o iselder (32%) na'r boblogaeth gyffredinol.
Mae pandemig COVID-19 wedi taflu goleuni ar lesiant pobl - eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae mwy o gynorthwywyr addysgu yn siarad yn agored am eu heriau ac mae cydweithwyr yn dangos eu cefnogaeth.
Er bod mwy o dderbyn/dealltwriaeth/ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a salwch nag erioed o'r blaen, rydym yn cydnabod y gall fod yn dal i deimlo'n anodd siarad. Nid ydych chi ar eich pen eich hun.
Yma rydym yn ymdrin â rhai o arwyddion iselder ac awgrymiadau ar beth i'w wneud os oes gennych neu os ydych chi'n meddwl bod gennych iselder.
Ble i gael cymorth a chamau y gallech eu cymryd
Ffoniwch ein llinell gymorth gyfrinachol, rhad ac am ddim, wedi’i staffio gan gwnselwyr cymwys, sydd ar gael 24/7 ar 08000 562 561.
Ffoniwch eich meddyg teulu i drefnu apwyntiad.
Siaradwch ag ef/hi am yr hyn rydych chi'n ei brofi.
Mewn sefyllfaoedd argyfwng ffoniwch 111 neu 999
Darllenwch fwy am wasanaethau iechyd meddwl y GIG
Sylwi ar yr arwyddion: y gwahaniaeth rhwng hwyliau isel ac iselder
Pan fyddwch chi'n mynd trwy newid mewn teimladau ac ymddygiadau, efallai na fyddwch bob amser yn gweld yn glir bod yr hyn rydych chi'n ei brofi yn salwch meddwl.
Rydych chi'n debygol o fod yn teimlo'n rhwystredig, yn ddryslyd ac yn bryderus, gan eich gadael yn methu (yn y foment honno) ag adnabod symptomau iselder. Byddwch yn sicr bod hyn yn iawn ac yn gyffredin!
Nid yw iselder bob amser yn cael ei achosi gan waith ond gall effeithio'n aruthrol ar fywyd gwaith. Rwy'n teimlo dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf bod iselder wedi cael ei drafod yn fwy agored gan roi mwy o dderbyniad iddo yn hytrach nag esgus dros beidio â bod a theimlo'n iawn. Yn bendant mae cael y cymorth cywir gan gymheiriaid a rheolwyr a gwybod eu bod yno i helpu yn sicrwydd mawr. Mae gofyn am gymorth hefyd
yn gam enfawr gan fod llawer o bobl yn dioddef mewn distawrwydd felly mae i rywun gydnabod
y gallech fod yn cael trafferth weithiau yn haws na chyfaddef hynny.
Dyma amlinelliad i helpu egluro rhai o'r newidiadau y gallech fod yn mynd drwyddynt.
Hwyliau isel: Rydym ni i gyd yn profi amseroedd heriol. Gallai'r rhain sbarduno teimlo'n anhapus neu'n drist.
Fodd bynnag, mae'r teimladau hyn yn para am gyfnod byr o amser ac nid ydynt yn torri ar draws eich bywyd bob dydd.
Iselder: Mae’n salwch meddwl a elwir yn anhwylder hwyliau a all dorri ar draws eich bywyd a'ch gwaith bob dydd. Mae'r arwyddion yn cynnwys:
- Colli diddordeb yn yr hyn yr oeddech unwaith yn ei fwynhau
- Teimlo'n ddagreuol yn anesboniadwy
- Ddim eisiau cymdeithasu neu wynebu grŵp o fyfyrwyr
- Yn ei chael hi'n anodd codi o'r gwely
- Teimlo'n anobeithiol, yn flinedig iawn neu'n anniddig
- Profi symptomau corfforol fel doluriau a phoenau yn y corff
- Meddyliau am hunanladdiad neu hunan-niweidio?
Er bod iselder yn salwch meddwl cyffredin, nid oes dau brofiad yr un fath ac mae'r symptomau'n amrywio o ysgafn i ddifrifol.
Mae'n bwysig ceisio cymorth, efallai y bydd hyn gan eich meddyg teulu yn y lle cyntaf a all eich cynghori ymhellach. Gofynnwch am gymorth bob amser cyn gynted ag y gallwch, er gwaethaf pa mor ddibwys rydych chi'n meddwl mae eich symptomau.
Beth i'w wneud os ydych chi'n profi iselder
Beth sy'n digwydd nawr? Os ydych wedi sylwi ar newid yn eich teimladau a'ch ymddygiadau, neu wedi cael diagnosis o iselder, gall fod yn anodd gwybod beth i'w wneud nesaf i gael y gefnogaeth a'r help sy'n iawn i chi.
Dyma ychydig o feddyliau y gallech fod yn eu cael ar hyn o bryd, gyda rhai camau nesaf a argymhellir.
- Rwy'n credu bod gen i iselder, ond nid wyf yn gwybod pwy i droi ato. Nid wyf yn siŵr fy mod am siarad ag unrhyw un
Mae'n iawn bod yn teimlo fel hyn. Gall aros yn gysylltiedig helpu i leddfu teimladau o anobaith ac unigrwydd. Wrth wynebu heriau ar eich pen eich hun, gall fod yn anodd cadw persbectif iach. Ond mae natur iselder hefyd yn golygu efallai y byddwch am dynnu'n ôl ac ynysu, felly gall cysylltu fod y peth olaf rydych chi am ei wneud.
Mae'n bwysig cofio bod pobl a fydd am helpu a thriniaethau ar gael. Os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus, estynnwch at gydweithwyr, teulu a ffrindiau dibynadwy, ac wrth gwrs cysylltwch â'r llinell gymorth Cymorth Addysg a'ch meddyg teulu.
- Rwy'n ei chael hi'n anodd gweithio, ond yn nerfus am siarad â fy rheolwr llinell
Mae'n ddilys i deimlo'n ansicr ynghylch codi pwnc iselder yn y gwaith, a gall cynorthwywyr addysgu, athrawon ac arweinwyr ysgolion fod yn arbennig o bryderus am y canlyniadau. Mae gan eich ysgol, coleg neu brifysgol ddyletswydd gofal i sicrhau eu bod yn gallu gwneud yr hyn a allant yn rhesymol i'ch cynorthwyo chi. Ni ellir gwahaniaethu yn erbyn rhywun â chyflwr iechyd meddwl y gellid ei ystyried yn anabledd
(yn unol â'r diffiniad yn y Ddeddf Cydraddoldeb) . Mae hyn yn golygu na ddylech gael eich trin yn llai ffafriol o ganlyniad i anabledd neu anabledd canfyddedig.
Gallech geisio estyn at gydweithiwr dibynadwy yn y lle cyntaf, cyn siarad â'ch rheolwr.
- Rwy'n barod i wybod pa fath o driniaethau sydd ar gael
Os ydych chi'n barod i ystyried opsiynau triniaeth, rydych chi wedi gwneud cam mawr a dylech longyfarch eich hun - nid yw cael help yn arwydd o wendid, mae'n dangos cryfder anhygoel.
Yn ôl y GIG, mae iselder yn fwy na dim ond teimlo'n anhapus neu'n cael llond bol am ychydig ddyddiau.
Cofiwch bob amser mae'r llinell gymorth gyfrinachol a rhad ac am ddim yma 24/7 ledled y DU ar 08000 562 561 ar gyfer yr holl staff addysg.
Ffynonellau
https://www.verywellmind.com/top-depression-symptoms-1066910