Cynorthwywyr Addysgu - Rheoli gorbryder a phryder
Rheoli gorbryder
Roedd llawer o gynorthwywyr addysgu yn canfod gweithio o fewn lleoliad addysg â phellter cymdeithasol yn her. Rydym wedi gweld ffrindiau, cydweithwyr a disgyblion yn cael trafferth. Yn anffodus mae llawer ohonom naill ai wedi gorfod delio â salwch difrifol uniongyrchol neu hyd yn oed wedi gorfod rheoli trawma emosiynol profedigaeth. Gall y profiadau hyn gael effaith barhaus ar ein hiechyd a'n llesiant a gallant ar adegau sbarduno pryder pan fyddwn yn ei ddisgwyl leiaf.
Yr allwedd yw cael rhywun ar y staff y gallwch fynd atynt, felly mae'r SLT yn allweddol. Efallai na fydd gan staff iau yr hyder i drafod â'r SLT.
Os ydych chi'n teimlo wedi’ch ysbrydoli i gysylltu mwy â'ch myfyrwyr neu'n chwilio am ffordd newydd o ddod â thawelwch i'ch ystafell ddosbarth, gall Headspace helpu myfyrwyr i feithrin arferion iach sy'n para am oes. Mae ffocws gwell, llai o straen, a meddyliau hapusach ychydig funudau i ffwrdd yn unig. Mae adnoddau am ddim ar gael ar gyfer gorbryder, pryder ac iselder yma:
Ar gyfer anadlu: www.educationsupport.org.uk/resources/ for-individuals/guides/breathing- exercises-for-beating-stress-and- creating-calm/
Beth i'w wneud drosoch chi'ch hun pan fydd gorbryder yn teimlo'n llethol
Os ydych chi'n teimlo wedi’ch gorlethu yn gorfforol ac efallai ar fin cael ymosodiad panig, gallwch wneud y canlynol:
Daearwch eich hun yn gorfforol
Gallai hyn fod mewn cadair, ar y llawr neu i fyny yn erbyn wal. Rhowch eich traed yn wastad ac yn gadarn ar y ddaear.
Anadlwch
- Anadlwch i mewn mor araf, dwfn ac ysgafn ag y gallwch, trwy
eich trwyn
- Caewch eich llygaid
- ac anadlwch allan yn araf, yn ddwfn ac yn ysgafn trwy eich ceg Cyfrifwch yn raddol o un i bump ar bob anadliad i mewn a phob anadliad allan.
Sylwch ar eich synhwyrau
Cymerwch sylw o'r pethau y gallwch eu gweld, clywed, arogli a theimlo. Enwch nhw yn eich meddwl. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn i geisio ailgyfeirio ein hunain a dod â ni i'r foment bresennol.
Byddwch gyda rhywun
Lle bo modd, peidiwch â mynd trwy banig ar eich pen eich hun. Dewch o hyd i ffrind neu aelod o'r teulu a all siarad â chi a'ch helpu i deimlo wedi’ch daearu ac yn ddiogel.
Deg Strategaeth
Rydym yn darparu llinell gymorth gyfrinachol am ddim.
Gallwch ffonio 24/7 am gefnogaeth emosiynol: 08000 562 561.
Peidiwch ag aros nes bod pethau'n wirioneddol anodd i chi neu’n argyfwng cyn i ffonio'r rhif yna. Wrth gwrs gallwch alw bryd hynny ond mae'n bwysig iawn efallai ein bod ni'n eich cynorthwyo yn gynharach os ydych chi mewn trafferthion.