Meithrin perthnasoedd iach yn y gweithle yn ysgol Cymru
Edrychwch ar Becyn Cymorth Llesiant Staff y tymor hwn gydag ystod o offer a chanllawiau am ddim i athrawon, staff addysg ac arweinwyr ysgol yng Nghymru.
Dewiswch ‘CY’ ar frig y dudalen hon i'w gweld yn y Gymraeg. I weld canllaw isod yn Gymraeg cliciwch arno yn gyntaf, yna dewiswch ‘CY’ ar frig y dudalen eto.
Gwnaethom drafod y pecyn cymorth hwn ‘Meithrin perthnasoedd gweithle iach mewn ysgolion yng Nghymru’ gydag Angharad Williams, Ymgynghorydd Llesiant Ysgolion Rhanbarthol yng Nghymru, i ddysgu am ffyrdd y gall staff wella eu perthnasoedd yn y gweithle a gosod ffiniau iach:
Mae fy rôl yn cynnwys cyfarfod yn rheolaidd â staff ysgol yng Nghymru ac rwyf bob amser yn cael fy nharo gan eu hymroddiad i'w disgyblion. Fodd bynnag, oherwydd yr ymrwymiad hwn mae’n gallu eu harwain i gytuno i bob cais gan gydweithwyr, rhieni, a disgyblion, gan aberthu eu llesiant eu hunain a’i chael yn anodd gosod ffiniau. Rwyf hefyd wedi sylwi sut y gall technoleg mewn ysgolion fod yn offeryn pwerus ar gyfer addysgu, ond ei fod hefyd yn agor sianeli ar gyfer cyfathrebu diderfyn rhwng y grwpiau hyn gan greu diwylliant o argaeledd cyson.
Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, rydym wedi cynnwys ein hawgrymiadau ar sefydlu strategaeth dechnoleg o fewn ysgolion yn y pecyn cymorth hwn, gan amlinellu disgwyliadau pawb yn ysgolion Cymru, megis protocolau ar gyfer defnyddio e-bost, canllawiau ateb, a phryd i ddiffodd. Mae ein canllaw ar osod ffiniau iach hefyd yn hanfodol i holl staff yr ysgol.
Nid yw perthnasoedd yn y gweithle bob amser yn hawdd. Ac er gwaethaf natur brysur ysgolion, weithiau gall absenoldeb cysylltiadau ystyrlon arwain at unigrwydd, y profir ei fod yn cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl a chorfforol. Yn ein Mynegai Llesiant Athrawon, gwelsom fod 14% o athrawon a staff addysg, bob amser, neu'n aml, yn teimlo'n unig yn y gwaith - yn uwch na'r ffigur ar gyfer y boblogaeth gyffredinol (SYG 7%).
Rwy'n credu mai'r ateb yw gwneud cysylltiadau gwirioneddol, treulio amser gydag unigolion sy'n gwneud i chi deimlo'n dda, sy'n cynnig cymorth gwrando anfeirniadol ac yn deall yr heriau rydych chi'n eu hwynebu yn eich rôl. Rwyf felly wedi cynnwys dolenni yn y pecyn cymorth hwn i'n gwasanaethau llesiant a ariennir yng Nghymru, sy'n dod â staff sy'n gweithio mewn rolau amrywiol ledled Cymru at ei gilydd i sicrhau eu bod yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu.
Mae gennym hefyd ganllaw ar ddelio â gwahaniaeth ac offeryn defnyddiol iawn ar gyfer cael sgyrsiau myfyriol ac felly mae’n werth cael cipolwg arno!