Cynghorydd Llesiant Ysgolion

Ydych chi eisiau cael effaith gadarnhaol ar fywydau'r rhai sy'n gweithio ym maes Addysg yng Nghymru?

Oes gennych chi brofiad o weithio'n uniongyrchol gyda sefydliadau i wella iechyd meddwl a llesiant staff ac eisiau ysbrydoli newid?

Os oes, yna mae'r rôl hon ar eich cyfer chi!

Oriau gwaith: amser llawn (37.5 awr)
Math o gontract: Contract tymor penodol am 12 mis
Lleoliad: Cymru (gweithio o bell ar hyn o bryd)
Cyflog: £38,000 y flwyddyn

Y Rôl

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, rydym ar fin cychwyn ar ein hail flwyddyn o ddarparu rhaglen gefnogaeth i staff addysg yng Nghymru a bydd y rôl hon yn rhan annatod o lwyddiant y rhaglen.

Byddwch yn arwain ar ddarparu ein gwasanaeth llesiant ysgolion gan ddarparu gwybodaeth ymarferol, cyngor ac arweiniad i ysgolion ledled Cymru. Byddwch yn gweithio gydag amrywiol randdeiliaid, gan gynnwys penaethiaid ac arweinwyr llesiant, gan eu galluogi i weithredu ac i flaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant staff.

Byddwch yn rhan o dîm rhaglenni a gwasanaethau Education Support, gan weithio ochr yn ochr â'r Arweinydd Llesiant Ysgolion. Fel elusen, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu rhaglenni a gwasanaethau newydd, gan gynyddu ein cyrhaeddiad a meithrin ein heffaith. Bydd y Cynghorydd Llesiant Ysgolion yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i gyflawni'r uchelgais hon.

Bydd llawer o gyfleoedd i ddatblygu a thyfu eich sgiliau a byddwch hefyd yn cael cyfle i gyfrannu at ein gweithgaredd tymor hir. Bydd yr ymgeisydd delfrydol wir yn poeni am iechyd meddwl a bydd yn angerddol, yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn awyddus i ddatblygu sylfaen gadarn o sgiliau. 

Mae sgiliau meithrin perthynas a chyflwyno rhagorol yn hanfodol.

Amdanom ni

Ein cenhadaeth yw gwella iechyd meddwl a llesiant athrawon a staff addysg. Credwn fod iechyd meddwl gwell yn arwain at well addysg.  

Rydym yn cefnogi unigolion ac yn helpu ysgolion, colegau a phrifysgolion i wella iechyd meddwl a llesiant eu staff. Rydym hefyd yn cynnal ymchwil ac yn eiriol dros newidiadau ym mholisi'r Llywodraeth er budd y gweithlu addysg.

Mae hwn yn amser cyffrous i weithio ym maes iechyd meddwl, wrth i gymdeithas gyrraedd mwy o gonsensws ar ei bwysigrwydd.  Ymunwch â ni a gwneud gwahaniaeth go iawn.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais trwy ein porth recriwtio lle gallwch chi uwchlwytho'ch CV a Datganiad Ategol yn amlinellu'ch addasrwydd ar gyfer y rôl. 

Gallwch lawrlwytho'r Disgrifiad Swydd isod. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 03rd medi 12pm. Fodd bynnag, anogir cais cynnar gan y byddwn yn llunio rhestr fer ac yn cyfweld ar sail dreigl, felly gall y swydd wag gau yn gynnar.

Gofynnwn i asiantaethau barchu ein penderfyniad i recriwtio’n uniongyrchol, ac ymatal rhag cysylltu â ni ynglŷn â’r swydd wag hon.