Gwasanaeth Llesiant Ysgolion Cymru 

A ydych chi’n arweinydd ysgol neu arweinydd iechyd meddwl a llesiant sydd eisiau gweddnewid sut mae’ch ysgol yn ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant staff? 

A hoffech chi gyrchu cyngor arbenigol am ddim gan ein cynghorydd llesiant ysgolion ymroddedig? 

Mae’r Gwasanaeth Llesiant Ysgolion am ddim i ysgolion ar draws Cymru gyda ffocws ar lesiant staff. Bydd ein harbenigwyr llesiant ymroddedig yn gweithio gyda chi trwy ddarparu adnoddau a chyngor ar bolisïau, arferion a strategaethau sy’n cefnogi iechyd meddwl a llesiant staff. 

Gallwn gefnogi’ch ymdriniaeth, a allai gynnwys: 

  • Datblygu cynllun iechyd meddwl a llesiant staff wedi’i deilwra 
  • Cefnogi datblygu arolwg neu holiadur llesiant staff 
  • Cyngor ar greu grŵp llesiant staff a chefnogi arweinydd neu eiriolwr llesiant
  • Datblygu calendr o ddigwyddiadau iechyd meddwl a llesiant 
  • Datblygu polisi neu siarter llesiant staff 
  • Codi ymwybyddiaeth o wasanaethau, adnoddau a chyfeirio 

Gwrando ar yr hyn sydd gan ysgolion i’w ddweud

‘Ni fu amser gwell i gyflwyno cefnogaeth llesiant i arweinwyr a staff addysg. Rydym yn ddiolchgar iawn i Education Support a’r rhan rydych chi’n ei chwarae yn ystod y pandemig.’
Pennaeth, Cymru
“Fel ysgol rydym wir yn gwerthfawrogi lefel y gefnogaeth a dderbyniwyd gan ein cynghorydd. Cafwyd trafodaeth dda am yr holl dargedau a chafwyd deunyddiau cefnogol bob amser. Gwasanaeth gwych a hynod ddefnyddiol.”
Uwch arweinydd ysgol ac arweinydd llesiant

Buddion

Bydd buddion gwell llesiant staff yn cael ei deimlo ar draws eich ysgol. 

Cymhwystra 

Darperir cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth hwn ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 

Yn 2020,

53%

o weithwyr addysg proffesiynol wrthym nad ydynt yn derbyn arweiniad digonol am eu hiechyd meddwl a llesiant yn y gwaith.

41%

wedi ystyried gadael y sector dros y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd pwysau ar eu hiechyd meddwl a llesiant

“Rydym bellach yn cynnwys llesiant staff yng nghynllun datblygu ein hysgol. Rydym wedi cynnwys llesiant staff yn ein cyfarfodydd llywodraethwyr i sicrhau bod hynny’n cael ei flaenoriaethu. Rydym wedi trefnu bod y cynghorydd llesiant yn cyflwyno gweithdy llesiant a bydd yn defnyddio’r wefan i’n cynorthwyo wrth symud ymlaen. Ym mis Medi, bydd gennym ystafell staff newydd, sy’n mynd i fod yn niwtral gyda gofod awyr agored. Ymgynghorwyd â staff ar eitemau ar gyfer yr ystafell llesiant newydd ac mae bwrdd llesiant newydd wrthi’n cael ei ddatblygu.”
Pennaeth Cynorthwyol ac arweinydd llesiant, Caerdydd Cymru

Cwestiynau cyffredin

Beth sy’n digwydd pan fyddaf i’n gwneud cais?

Bydd cynghorydd llesiant ysgolion arbenigol yn cysylltu â chi a fydd yn darparu mwy o wybodaeth am lefel y gefnogaeth sydd ar gael i chi a’ch ysgol. 

A oes cost i gymryd rhan?

Na, mae’r gwasanaethau hyn am ddim ac fe’u darparir gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. 

Sut mae gwneud cais?

E-bostiwch Anthony.Priest@edsupport.org.uk gyda manylion eich ysgol, eich rôl ac unrhyw wybodaeth berthnasol bellach.

School leaders' support
School leaders' support