Gofalu am Athrawon: Canolbwynt iechyd meddwl a llesiant

A ydych chi’n gyfrifol am iechyd meddwl a llesiant eich staff? Bydd Canolbwynt Gofalu am Athrawon yn rhoi gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i greu diwylliant gwaith sy’n blaenoriaethu llesiant staff.  

Ni fu cefnogi iechyd meddwl a llesiant staff ysgol erioed yn bwysicach. Gall hi fod yn anodd gwybod lle i ddechrau, ac felly dyna pam ein bod ni wedi datblygu’r Canolbwynt Gofalu am Athrawon.

Yn y canolbwynt mae gwybodaeth, offer ac adnoddau ar draws ystod o feysydd ac mae’r cyfan wedi’u cynllunio i helpu ysgolion i feithrin diwylliannau ac amodau i flaenoriaethu iechyd meddwl staff. Yno hefyd y mae cyfres o ganllawiau, fideos cyflwyno a gweminarau y mae’r cyfan am ddim i’w cyrchu. 

Os ydych chi’n arweinydd ysgol, neu’r person sy’n gyfrifol am iechyd meddwl a llesiant staff, mae’r canolbwynt hwn yn fan cychwyn perffaith i chi.  

 

Cyflwyniad i'r canolbwynt hwn