
Eich straeon: Gwasanaeth Llesiant Staff yng Nghymru
Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer ein Gwasanaeth Llesiant Staff yng Nghymru wedi'i ariannu?
Dysgwch sut mae staff ysgolion ledled Cymru yn elwa o'n cefnogaeth trwy ddarllen eu straeon go iawn isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwasanaethau yng Nghymru neu os hoffech rannu eich profiad eich hun, hoffem glywed gennych.
Sylwch, rydym wedi cwblhau darpariaeth o ddosbarthiadau meistr iechyd meddwl a llesiant ar gyfer yr holl staff, Gweithdai ar gyfer cynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr cymorth dysgu, Setiau Dysgu Gweithredol ar gyfer arweinwyr llesiant, Goruchwyliaeth Grŵp ar gyfer staff diogelu a Grwpiau Cymorth Cymheiriaid ar gyfer staff cyflenwi.
"Mae cael lle pwrpasol i fyfyrio, siarad yn agored, a theimlo'ch bod yn cael eich cefnogi go iawn wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fy llesiant ac ymarfer. Mae gadael pob sesiwn yn ysgafnach ac yn fwy hyderus wedi gweddnewid pethau i mi. Ni allaf ei argymell yn ddigon!" – Arweinydd Ysgol
“Rydych wedi rhoi'r offer a'r anogaeth i mi yrru mentrau llesiant staff, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar lwyddiant ein hysgol. Rwy'n ddiolchgar iawn ac yn gobeithio y bydd y gefnogaeth hon yn parhau.” – Arweinydd Llesiant


Arweiniodd cyfarfod â Chynghorydd Llesiant Staff at effeithiau cadarnhaol ar ein hysgol dro ar ol tro.

Fe wnaeth yr oruchwyliaeth weddnewid pethau. Mae wedi fy rhoi ar drywydd mwy cadarnhaol, iachach a chynhyrchiol.


Helpodd y Gwasanaeth Cynghori ar Lesiant i godi'r sgwrs am iechyd meddwl yn ein hysgol - nid yw'n teimlo mai dim ond ticio blychau yr ydym ni.

Mae ymrwymo i'r sesiynau hyn wedi bod yn hynod ddefnyddiol wrth reoli straen a chynnal fy iechyd meddwl.

Roeddwn i'n teimlo wedi fy llethu pan wnes i gyfarfod â'm goruchwyliwr i ddechrau. Fe wnaethant fy helpu i weld yn gliriach.

Nid wyf yn bod yn ddramatig pan ddywedaf fod goruchwyliaeth wedi newid fy mywyd.

Fe wnaeth goruchwyliaeth broffesiynol fy ngalluogi i ddod o hyd i lawenydd yn fy rôl addysg ac mewn bywyd y tu hwnt i waith.


Ynglŷn â'n gwasanaethau

If you would like to share your own experience, we’d love to hear from you. Simply fill in our quick form and a member of the team will come back to you.